Covid-19: Chwaraeon yn helpu ar gyfnod anodd
- Cyhoeddwyd

Mae aelodau rhanbarth y Scarlets wedi bod yn brysur yn helpu'r gymuned
Mae nifer o chwaraewyr amlwg wedi bod yn cynorthwyo yn yr ymdrechion gwirfoddol i helpu yn ystod argyfwng coronafeirws.
Gyda'r pandemig yn golygu bod gemau a chystadlaethau wedi dod i ben am y tro, mae nifer o sêr y byd chwaraeon wedi bod yn troi eu golygon at ddyletswyddau eraill.
Yn ogystal mae nifer o feysydd amlwg wedi addasu i fod o ddefnydd yn ystod yr argyfwng.
Mae Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wedi ei addasu i fod yn ysbyty maes - mae hyd at 2,000 o wlâu yn Ysbyty Calon y Ddraig,.
Mae clybiau rygbi hefyd yn weithgar yn helpu pobl sydd wedi cael eu rhoi mewn categori risg uchel ac yn gorfod hunan ynysu yn eu cartrefi.
Cyfrannu £30,000
Ar y cyd gyda chlybiau lleol y rhanbarth, mae'r Scarlets yn cludo pecynnau bwyd i bobl fregus - ac maen nhw wedi cael cryn ymateb yn yr ardal.
Mae adran elusennol y Scarlets wedi dosbarthu tua 400 o focsys cymorth i bobl fregus ac mae cynlluniau i ddosbarthu 500 o becynnau yr wythnos nesaf.
Dywedodd Caroline Newman, rheolwr sefydliad cymunedol y Scarlets wrth Cymru Fyw bod tri o gefnogwyr "dienw" y Scarlets wedi cyfrannu tua £30,000 at yr ymdrech.
Ar hyn o bryd mae'r unigolion wedi penderfynu peidio datgelu pwy ydyn nhw ond mae'r rhanbarth yn ddiolchgar am eu cyfraniadau hael.

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

"Ni'n ceisio cyrraedd pobl sydd methu cyrraedd y banciau bwyd," meddai Caroline Newman.
"Ni wedi dosbarthu i bob rhan o'r rhanbarth - o Hendy i Abergwaun i Aberystwyth.
"Ni'n helpu pobl fregus ac yn llenwi'r bwlch tan bod y llywodraeth ac awdurdodau lleol yn medru cynnig mwy o help.
"Ni'n lwcus bod gennym rwydwaith ffantastig o tua 40 o glybiau lleol sydd yn barod iawn i helpu, gyda chymorth ein cyflenwr Castell Howell."
Yng Nghaerdydd mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd wedi codi £1,638 ar gyfer "yr ymroddiad a'r ysbryd diflino sy'n cael ei ddangos gan staff y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yn ystod y cyfnod anodd hwn".

Dechreuodd Marc Williams ei yrfa proffesiynol gyda Wrecsam
Hyd yma mae'r clwb wedi archebu a danfon 40 pitsa at weithwyr shifft nos yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi anfon 250 o fagiau bagiau golchi dillad i staff ysbytai ledled y de-ddwyrain.
Hefyd yn brifddinas mae Clwb Pêl Droed Cymric wedi codi dros £3,000 tra bod capten CPD Tref Aberystwyth, Marc Williams, wedi sefydlu tudalen rhodd ar y we.
Mae Williams wedi annog y gymuned bêl-droed ledled Cymru i gyfrannu, gyda'r arian yn mynd i gronfeydd elusennol y Gwasnaeth Iechyd yng Nghymru.
Pawb yn dod at ei gilydd
"Mae hi wedi bod yn anodd peidio gwneud unrhywbeth a ro'n i wedi bod yn meddwl am syniadau sut i wneud cyfraniad," meddai cyn-ymsodwr Wrecsam a Chymru dan21.
"Ro ni'n meddwl y byddai'n neis petai pawb ym mhêl-droed Cymru yn dod at ei gilydd ac mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn.
"Yn amlwg ma gennai ddigon o amser ar fy nwylo ar hyn o bryd ac ron' i'n gweld gwaith da'r gweithwyr allweddol."
Bu Williams mewn cysylltiad gyda chwaraewyr o gybiau eraill Uwch Gynghrair Cymru ac yn wreiddiol roedd wedi gobeithio gosod targed o £2,500
Bellach mae'r cyfanswm yn agos at £5,000.
Ychwanegodd Marc Williams: "Mae clybiau fel Airbus, Caernarfon, Y Barri a Phorthmadog wedi cael casgliadau ymysg y chwaraewyr ac mae cyfraniadau wedi dod gan reolwyr, cadeiryddion a chefnogwyr.
"Mae aelod o'r Cofi Army wedi rhoi arian ac mae'n bosib eu bod nhw yn fy ngalw yn bob math o enwau cwpwl o wythnosau yn ôl pan nes i sgorio hat-tric yn eu herbyn!
"Ond dyna beth sydd yn bwysig, pawb yn dod at ei gilydd."

Mae Ryan Jones wedi rhedeg marathon o'r blaen gan gwblhau un Casnewydd yn 2018
Yn ogystal mae unigolion ym myd y campau wedi bod yn cyflawni heriau corfforol.
Fe wnaeth Ryan Jones, cyn chwaraewr rygbi Cymru, rhedeg marathon yn ei ardd yn Abertawe. Mae hefyd wedi seiclo 100 milltir ar feic ymarfer a chael 100 o bobl eraill i wneud yr un peth gan godi dros £45,000 i'r gwasanaeth iechyd lleol.
Mae hefyd nawr yn ceisio annog eraill i gerdded milltir y penwythnos yma.
"Roeddwn i yn darllen erthygl ddiddorol ynglŷn â nyrsys y GiG sydd ar shifftiau 12 awr yn cerdded milltir ar ôl milltir yn gofalu am eu cleifion.
"Nes i feddwl byddai hyn yn ffordd hyfryd i godi rhywfaint o arian a chodi ymwybyddiaeth i ein harwyr GiG ni, trwy gerdded milltir."

Geraint Thomas yn ystod ei her
Mae'r seiclwr a chyn enillwr Tour de France, Geraint Thomas hefyd wedi codi £300,000 i'r gwasanaeth iechyd trwy seiclo am 36 awr dros gyfnod o dri diwrnod yn olynol ar feic turbo yn ei garej.
"Dwi ddim yn gor-ddweud. Roedd y ddwy awr olaf y rhai anoddaf erioed i fi ar y beic. O'n i prin yn gallu eistedd lawr," meddai.
Mae wedi cymharu'r her i wyth neu naw cymal o'r Tour de France.
"Dwi wedi clywed cymaint o straeon ynglŷn â beth mae pobl yn gwneud. Roedd hynny yn gwneud i fi fod eisiau chwarae fy rhan fach i drwy geisio helpu mewn ffordd fach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020

- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020
