'Plîs peidiwch rhoi dim un teulu arall drwy hyn'

Mae merch dyn o Wynedd, fu farw gyda coronafeirws, yn erfyn ar bobl i beidio â theithio'n ddiangen er mwyn atal lledu'r haint.

Bu farw John Griffiths, o Abersoch, ar 9 Ebrill, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Does gan ei deulu ddim syniad sut y cafodd y feirws gan nad oedd yn un am deithio llawer a ddim yn mynd ymhellach na'i siop leol.

Mae ei ferch, Linda Jones wedi apelio ar bobl i gadw draw o'r ardal, gan ddweud "plîs peidiwch rhoi dim un teulu arall drwy hyn".