Dechrau ar gyfnod Ramadan ddydd Iau
Bydd mis sanctaidd Ramadan "yn wahanol iawn i Fwslemiaid yng Nghymru" oherwydd y pandemig Covid-19, yn ôl arweinwyr cymunedol.
Mae mosgiau wedi cau ac mae'r rheolau ynglyn ag ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod yn rhaid addasu i drefn newydd.
Ymprydio yn ystod y dydd a bwyta gyda'r nos, ydi'r drefn arferol yn ystod Ramadan.
Ac yn ôl Sian Massamah o Landrillo-yn-Rhos, mae bod yn elusenol ac yn garedig yn ystod cyfnod Ramadan.