'Mae'n drysau ni dal ar agor, ni moyn estyn llaw'

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images
GanGwyn Loader
Gohebydd BBC Cymru

Mae elusen sy'n helpu'r rhai sydd yn gaeth neu wedi bod yn ddibynnol ar gyffuriau yn dweud eu bod wedi gweld cwymp o 71% yn nifer y bobl sydd un dod atyn nhw am gymorth yn sgil cyfyngiadau coronafeirws.

Yn ôl Steffan Warren, gweithiwr cyswllt gydag elusen DDAS, mae pryder y gallai degau os nad cannoedd o bobl sydd angen cefnogaeth a chymorth fod yn llithro drwy'r rhwyd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Warren nad yw problemau pobl wedi diflannu a bod help dal ar gael iddynt.

Dywedodd fod peth tystiolaeth fod y gadwyn gyffuriau yn cael ei gwasgu ond y gallai hynny achosi llawer o bobl sy'n gaeth "yn enwedig i opiates, yn mynd mewn i precipitated withdrawal".

"Alle hynny achosi lot o boen i bobl a golygu bod nhw ddim yn gwybod ble i droi," meddai.

Mae'r elusen, sydd yn gweithio ar draws siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion am bwysleisio bod gwasanaethau'n dal ar gael i'r rheiny sydd angen cefnogaeth.

"Ni'n neud y gorau allwn ni dros y ffôn. Mae rhai o'r interventions ni'n arfer rhoi i bobl ddim yn bosib

"Bydde fe'n debygol bod pobl yn cael problemau dros y cyfnod hwn a bod nhw mwy tebygol o droi at y cyffur neu'r alcohol.

"Mae'n drysau ni dal ar agor, ni moyn i bobl ddal i estyn llaw mas aton ni, i godi'r ffôn neu fynd ar y wefan."

Daw hyn wedi i ddau aelod o grŵp Cocaine Anonymous gysylltu â Newyddion i alw am godi ymwybyddiaeth am y rhaglenni a chyfarfodydd sydd i'w cael ar y we yn ystod y pandemig.

Llinos Mon Owen

Mae Llinos Môn Owen yn 32 oed ac ers dwy flynedd yn mynd i gyfarfodydd Cocaine Anonymous ar ôl bod yn ddibynnol ar gyffuriau.

Pan gyhoeddodd y llywodraeth bod sefydliadau i gau eu drysau er mwyn diogelu pobl rhag coronafeirws, roedd hyn yn ergyd iddi hi a defnyddwyr eraill y gwasanaeth.

Llwyddo 'i gadw'n lân'

"Mae connection a contact i fi yn beth mawr mewn recovery.

"Felly rhan mawr o fi'n cadw fy hun yn lân ydy cadw connection gyda pobl fatha fi sydd yn ricyfro o drug addiction. O'n i'n meddwl y noson yna sut ydw i'n mynd i wneud hyn?"

Ond drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein a mynychu cyfarfodydd ar y we sy'n cael eu cynnig gan y grŵp, mae wedi llwyddo i beidio cwympo yn ôl i'w hen arferion.

"Mae llwyth o links o bob math o gyfarfodydd i gael pob awr o'r dydd. Beth fyddwn i'n dweud wrth rywun sy'n stryglo ar hyn o bryd hefo addiction yw mae'n werth downloadio app Zoom a chael look ar y website.

"O'n i'n poeni am fy hun, am fy recovery a sut fydden i'n copio yn y cyfnod anodd yma, ond so far so good - a thumbs up mawr i Zoom."

gareth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth yn cael help ar-lein

'Help ar gael'

Mae Gareth 42 oed hefyd wedi derbyn cymorth gan Cocaine Anonymous ar ôl bod yn ddibynnol ar gocên am 20 mlynedd.

Roedd hefyd yn cymryd sylweddau eraill gan gynnwys canabis, ecstasi, spice ac M-cat.

Nid yw wedi cymryd unrhyw gyffuriau ers pedair blynedd ac yn diolch i Cocaine Anonymous am hynny.

Er ei fod yn lân erbyn hyn, dywedodd wrth Newyddion y gallai fod wedi cwympo nôl i'w hen arferion yn ystod y cyfnod anodd yma heb yr help mae wedi ei gael gan gyfarfodydd ar-lein Cocaine Anonymous.

"Gall ynysu fod yn broblem i bawb. Mae pobl sy'n gaeth, alcoholics yn dioddef. Rŵan, heb waith a nunlle i fynd mae'r broblem yn gwaethygu a'n gallu mynd out of control."

"Mae 'na help ar gael. Mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi cau oherwydd y cyfyngiadau ond mae'r meetings wedi symud i app Zoom. Os 'da chi isio ffordd allan mae byth wedi bod yn haws i ymuno.

"Mae hyn yn golygu allwch chi fynd ar-lein gyda enw gwahanol a dewis peidio cael fideo a jyst gwrando. Does dim eisiau bod ar eich hun byth eto."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Mae DDAS hefyd am sicrhau pobl eu bod nhw'n dal yno i helpu.

Mae eu gwasanaethau cyfnewid nodwyddau yn Llanelli ac Aberystwyth yn parhau ar agor ac mae rhagor o gymorth ar gael dros y ffôn a thrwy eu gwefan.

Straeon perthnasol