Covid-19: Rhedeg i godi arian er cof am fam 'annwyl'
- Cyhoeddwyd
Teyrnged teulu Undeg Lewis yn dilyn ei marwolaeth ym mis Ebrill
"Ar gyfer mam." Dyna pam y bydd Gwyndaf Lewis yn rhedeg dros 30 milltir yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.
Bydd yn rhedeg er cof am ei fam Undeg, fu farw o coronafeirws yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ym mis Ebrill yn 59 oed.
Roedd Undeg yn un o hoelion wyth ardal Crymych, yn glerc Cyngor Cymuned Crymych ac yn ysgrifennydd papur bro Y Cardi Bach.
"Roedd y teulu am ddweud diolch yn fawr i staff yr Uned Gofal Dwys yng Nglangwili am eu hymroddiad di-flino a'u gofal o Mam," meddai Gwyndaf o Efailwen.

Undeg Lewis a'i theulu, gyda Gwyndaf ar y dde
Bydd yn rhedeg 32 gwaith o amgylch Feidr Sion - gyda phob lap tua milltir - a bydd ei dad Tudur a'i frawd Rhodri yn beicio rhan o'r ffordd gydag ef.
Mae ei chwaer Nia yn byw yn ardal Bangor ac oherwydd y cyfyngiadau, ni fu'n bosib iddi ddychwelyd at ei theulu yn Efailwen.
Codi arian
Mae Gwyndaf eisoes wedi codi dros £7,000 er mai dim ond yn gynharach yn yr wythnos y cyhoeddodd y byddai'n gwneud yr her.
Mae ganddo brofiad o wneud marathon ac wedi gwneud her Ironman, ond nid yw wedi bod yn hyfforddi'n rhy galed ar gyfer yr her ddydd Sadwrn ar ôl hunan-ynysu am fis yn dilyn diagnosis ei fam.
"Yn anffodus, mae 2020 wedi gweld y byd yn wynebu amseroedd anodd oherwydd pandemig Covid-19," ychwanegodd Gwyndaf.
"Ond yn waeth na dim i ni, rydym fel teulu wedi colli rhywun annwyl iawn, Mam, bu farw yn ddim ond 59 oed gyda chymaint ganddi i edrych ymlaen ato.
"Felly, mae hyn ar gyfer Mam."

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2020
