Hyfforddi gwirfoddolwyr St John i helpu gyda'r pandemig

Pe bai hon yn flwyddyn gyffredin, byddai'r wythnosau hyn yn gyfnod go dawel i adran St John Ambulance Cymru yn Y Rhyl.

Byddai'n gyfnod o edrych ymlaen at sioeau, gwyliau a ffeiriau'r haf - y dyddiau hir o fod wrth law yn barod gyda'u sgiliau cymorth cyntaf.

Ond mae hwn yn gyfnod gwahanol, ac mae'r gwirfoddolwyr yn paratoi i helpu mewn argyfwng na welon nhw mo'i debyg.

Dyma adroddiad Sion Pennar.