Uned gofal dwys ysbyty yn paratoi ar gyfer 'ail don'
Mae ymgynghorydd gofal dwys yn ysbyty mwyaf Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod o fewn wythnos i redeg allan o adnoddau i drin cleifion coronafeirws, pan oedd y gwasanaeth ar ei brysuraf.
Fe gafodd BBC Cymru gyfle prin i dreulio amser yn uned gofal dwys yr ysbyty, sydd bellach yn paratoi ar gyfer ail don o achosion.