12 yn fwy o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae 12 yn fwy o farwolaethau yn gysylltiedig gyda coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Ddydd Sul, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) fod cyfanswm y marwolaethau wedi codi i 1,203.
Mae 162 yn fwy o bobl wedi profi'n bositif ar gyfer coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm o achosion i 12,304.
Mae'r ffigwr go iawn yn debygol o fod yn uwch, gan nad yw pawb yn cael eu profi.
Hyd yma mae 49,284 o bobl wedi eu profi'n bositif yng Nghymru, gyda 36,980 yn negyddol.
Mae cyfanswm o 57,977 o brofion wedi eu cynnal, gyda rhai pobl yn cael eu profi mwy nag unwaith.
Cred ICC fod Cymru wedi cyrraedd y brig, o ran nifer yr achosion dyddiol.
Swyddfa Ystadegau
Yn ogystal â ICC, mae'r Swyddfa Ystadegau (ONS) hefyd yn rhoi manylion nifer y marwolaethau sydd wedi eu cofrestru o ganlyniad i Covid-19, neu a gredir o fod wedi marw o'r haint
Roedd ffigyrau yr ONS ar 9 Mai yn nodi bod 1,641 wedi marw.
Mae ICC yn cyhoeddi ffigyrau yn ddyddiol, y rhan fwyaf o'r rhain wedi'u cofnodi mewn ysbytai ac mae tystiolaeth labordai wedi dangos eu bod yn gysylltiedig â'r haint.

AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020

- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
