Saith arall wedi marw yng Nghymru ar ôl cael Covid-19
- Cyhoeddwyd

Gweithwyr yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd bod saith yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19.
Mae 1,267 o bobl sydd wedi'u heintio wedi marw yng Nghymru hyd yma, meddai'r corff.
Cafodd 140 o achosion eraill eu cadarnhau hefyd - a oedd yn llai na'r ffigwr ddydd Sadwrn (185) - gan ddod â'r cyfanswm o brofion positif yma i 13,309.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau'n uwch mewn gwirionedd am nad ydy pawb yn cael eu profi.
Mae'r corff yn cyhoeddi ystadegau dyddiol o farwolaethau, sy'n digwydd yn bennaf mewn ysbytai a dim ond pan fydd labordai wedi cadarnhau'r feirws.
Hyd yma, mae 60,445 o bobl wedi cael eu profi am coronafeirws yng Nghymru, gyda 47,136 yn profi'n negyddol.
Mae cyfanswm o 71,611 o brofion wedi'u cynnal, gan fod rhai pobl wedi cael eu profi fwy nag unwaith.
Yn ogystal â Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhoi manylion y rhai yr achosion sydd wedi'u cadarnhau neu sydd wedi eu hamau o fod wedi marw gyda Covid-19.
Mae ei ffigyrau diweddaraf ar gyfer Cymru, am yr wythnos yn gorffen ar 16 Mai, yn rhoi'r cyfanswm fel 1,852.

AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020

- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
