Saith yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi saith yn rhagor o farwolaethau Covid-19 a 106 o achosion newydd yng Nghymru.

Roedd 58 o'r achosion newydd gafodd eu cadarnhau ddydd Llun - dros hanner y cyfanswm - yn dod o ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Bellach mae 13,415 o bobl wedi cael prawf positif ar gyfer y feirws, ond mae'r gwir nifer sydd wedi cael eu heintio yn debygol o fod yn llawer uwch, gan nad yw profion yn cael eu cynnal ar raddfa eang yn y gymuned ar hyn o bryd.

Mae cyfanswm o 1,274 o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach - ond eto, mae'r rhain yn wahanol i'r ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae 74,690 o brofion wedi eu cynnal ar 62,853 o unigolion, ac mae 49,438 o unigolion wedi profi'n negatif.

Fe gafodd 3,079 o brofion Covid-19 eu cynnal yng Nghymru ddydd Sul, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 8 Mai y byddai'r cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru am dair wythnos arall.

"Yng Nghymru, mae'r cyfarwyddyd aros gartref yn parhau - dylech aros gartref bob amser os ydych chi'n gallu.

"Er ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi pasio penllanw'r achosion newydd yng Nghymru, mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn bodoli o hyd ym mhob rhan o'r wlad.

"Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni ei roi ar waith er mwyn ymladd yn erbyn y feirws yw aros gartref ac rydyn ni'n diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan a helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Ap symptomau

Ychwanegodd: "Rydym yn annog pawb i lawrlwytho'r ap Astudiaeth Symptomau'r Coronafeirws Newydd, sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

"Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau'n ddyddiol i helpu i greu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl."

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com.