Disgwyl manylion ar lacio'r cyfyngiadau ddydd Gwener
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod disgwyl i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio yng Nghymru wythnos nesaf - ac o ganlyniad bydd modd i bobl o ddau gartref gwahanol gwrdd â'i gilydd y tu allan.
Ond bydd yn rhaid i bobl aros dau fetr ar wahân - ac aros yn eu hardal leol.
Fydd y newid ddim yn digwydd tan ddydd Llun.
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddatgelu mwy o wybodaeth mewn cynhadledd i'r wasg amser cinio ddydd Gwener.