Tair yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi tair yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru, gan ddod a'r cyfanswm o farwolaethau bellach i 1,444.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 39 yn rhagor o achosion newydd hefyd wedi eu cofnodi, sydd yn golygu fod 14,742 o bobl wedi derbyn prawf positif am coronafeirws.
Hyd yma, mae 110,047 o unigolion wedi derbyn profion Covid-19, gyda 95,305 prawf yn negatif.
Cafodd 133,835 prawf eu cynnal, gan fod rhai pobl wedi derbyn prawf fwy nag unwaith.


Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cyhoeddi ystadegau dyddiol a farwolaethau Covid-19, gan amlaf pan fod y marwolaethau wedi digwydd mewn ysbytai, ond dim ond pan fod yr haint wedi ei gadarnhau yn labordai'r ysbytai hynny.
Caiff ffigyrau'r marwolaethau eu hadolygu a'u hychwanegu i'r dyddiad cywir yn ddiweddarach.
Mae ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi unwaith yr wythnos, ac maen nhw'n cynnwys pob marwolaeth sydd wedi ei gofrestru, gan gynnwys rhai mewn cartrefi gofal, yn y cartref a hefyd achosion sydd wedi eu cadarnhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020

- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
