Ymosodiad Llanelwy: Cyhuddo dau ddyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Bro Havard yn Llanelwy yn hwyr nos Wener
Mae dau ddyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad a digwyddiad yn Llanelwy nos Wener diwethaf wedi cael eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn ardal Bro Havard, Llanelwy.
Cafodd swyddogion o Heddlu'r Gogledd eu galw i'r ystâd ychydig cyn 22.00 yn dilyn adroddiadau fod grwp o ddynion wedi torri i mewn i dŷ yno ac wedi ymosod ar y perchennog.
Bydd Lloyd Hogg, 20, a Mark Ashley Hogg, 27, y ddau o Ffordd Newydd, Llanelwy, yn mynd o flaen ynadon yn Llandudno fore Llun wedi eu cyhuddo o ladrata bwriadol ac o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol.
Mae trydydd dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad.
Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.