Dau stadiwm i barhau i fod yn ganolfannau profi Covid-19

  • Cyhoeddwyd
ccsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn ganolfan brofi Covid-19 dros yr wythnosau diwethaf

Mae clybiau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe wedi cadarnhau y bydd ardaloedd eu stadiymau yn parhau i gael eu defnyddio fel canolfannau profi Covid-19 pan fydd y tymor pêl-droed yn ailddechrau ddydd Sadwrn.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig ac heb gefnogwyr, a dim ond chwaraewyr, dyfarnwyr, staff meddygol, darlledwyr a swyddogion eraill o'r clybiau fydd yn cael mynd i mewn.

Cafodd canolfan brofi gyrru-drwodd cyntaf Cymru ei sefydlu ar dir Stadiwm Dinas Caerdydd ar 7 Ebrill.

Fe gafodd cytundeb ei arwyddo rhwng Llywodraeth y DU a'r clwb sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r stadiwm tan ddiwedd mis Medi.

Dywedodd CPD Caerdydd fod ganddyn nhw "gynllun gweithredu llawn sy'n cynnwys gofynion y ganolfan brofi" fydd yn sicrhau fod y gwaith yn parhau ar ddiwrnod gemau.

Bydd Caerdydd yn chwarae eu gêm gyntaf yn y stadiwm ddydd Sul pan fyddan nhw'n wynebu Leeds United - y gêm gyntaf i'r timau ers i'r tymor gael ei ohirio am dri mis ym mis Mawrth.

Close view of Liberty StadiumFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gêm gyntaf CPD Abertawe yn Stadiwm Liberty yn erbyn Luton Town ar 27 Mehefin.

Mae canolfan brofi wedi bod yn gweithredu ar dir Stadiwm Liberty ers mis Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran CPD Abertawe fod ganddyn nhw "berthynas dda gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol" ac na fyddai'r gemau yn "effeithio ar y ganolfan brofi nac ar ddiogelwch" gan fod y profion yn digwydd mewn maes parcio gwahanol, gyda mynedfa ei hun, sydd ddim ei angen ar ddyddiau gemau.

Mae'r ddau glwb wedi dweud y byddai'n bosibl cynnal gemau rygbi rhyngwladol yn eu stadiymau nhw yn yr hydref os fydd ysbyty dros dro yn dal i fodoli yn Stadiwm Principality.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws