Dyn 'wedi trywanu ei wraig yn ei gwddf' ar ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd

Thomas Bryan (dde) yn cyrraedd Llys Ynadon Llandudno ym mis Rhagfyr
Fe allai pensiynwr o Wynedd fod wedi lladd ei wraig ar ddydd Nadolig oherwydd ei bod wedi ceisio'i atal rhag cael diod arall, clywodd llys.
Mae Thomas Bryan wedi'i gyhuddo o lofruddio Vivienne Bryan, 74, yn eu byngalo yn Rhodfa Francis, Fairbourne y llynedd.
Roedd y ddau wedi bod yn briod am 53 mlynedd.
Clywodd y llys bod Mr Bryan wedi trywanu ei wraig yn ei gwddf gyda chyllell fawr.
Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, dywedodd yr erlyniad fod Mr Bryan yn bwriadu lladd ei wraig.
Mae'r dyn 75 oed yn gwadu llofruddiaeth a chyhuddiad amgen o ddynladdiad.
'Tensiwn' cinio Nadolig
Dywedodd yr erlynydd Gordon Cole QC fod y diffynnydd wedi defnyddio "cyllell eithaf mawr," a roddodd "yng ngwddf ei wraig".
"Mae plymio cyllell i mewn i rywun, o leiaf, yn dangos bwriad i beri niwed difrifol iawn," ychwanegodd.
Clywodd y rheithgor fod Mr Bryan wedi galw drws nesaf yn nhŷ ei ferch Angela tua 20:00, gan ddweud bod ei mam wedi "dod tuag ato gyda chyllell".
Pan ofynnodd ei ferch beth yr oedd wedi'i wneud, dywedodd ei fod wedi ei "thrywanu".
Dywedodd Mr Cole QC sut aeth y ferch drws nesaf i ddod o hyd i'w mam yn "llonydd" ar y soffa.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Rodfa Francis yn Fairbourne ar Ddydd Nadolig
Roedd Angela, meddai Mr Cole, wedi dweud wrth yr heddlu bod ei rhieni wedi cael cinio Nadolig yn ei thŷ, a bod "tensiwn" rhyngddyn nhw, a bod hynny wedi arwain at y ddau yn dychwelyd adref yn ddiweddarach.
Y noson honno, pan alwodd ei thad, aeth drws nesaf a cheisio perfformio CPR, ond bu farw Mrs Bryan yn y byngalo.
Ar ôl i Mr Bryan gael ei arestio, dywedodd wrth yr heddlu "aeth amdanaf ddwywaith".
Clywodd y llys fod dadl dros y diffynnydd yn yfed alcohol.
Cafodd ei gyfweld dros y dyddiau nesaf ac mewn un cyfweliad dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn rhaid iddo ei thrywanu wrth iddi "geisio fy atal rhag cael diod arall".
Dangosodd samplau gwaed mai lefel gwaed-alcohol Mrs Bryan oedd 62mg y 100ml. Roedd ei gŵr - pan gafodd ei brofi bedair awr ar ôl y digwyddiad - yn 89mg y 100ml. Y terfyn yfed a gyrru yw 80mg fesul 100ml.
Dywedodd yr erlyniad y byddai ei lefelau wedi bod yn llawer uwch ar adeg y digwyddiad, "yn ddigon i achosi cryn dipyn o feddwdod mewn yfwr cymdeithasol ar gyfartaledd".
'Hanes yn hanfodol i ddeall yr achos'
Wrth annerch y rheithgor, dywedodd Ian Unsworth QC, ar ran yr amddiffyn, ei fod yn achos "gwirioneddol drasig".
Roedd yn cydnabod mai Mr Bryan oedd wedi achosi'r clwyf cyllell i'w wraig, ond dywedodd fod y digwyddiad yn deillio o "gyfuniad o ddigwyddiadau yn mynd yn ôl wythnosau, misoedd a hyd yn oed blynyddoedd".
Ychwanegodd bod "hanes" a oedd yn cynnwys Mrs Bryan yn dal cyllell at ei gŵr wrth iddo gysgu.
"Rydyn ni'n dweud bod yr hanes yn hanfodol i ddeall yr achos hwn yn iawn," meddai, gan ychwanegu: "Cadwch feddwl agored, os gwelwch yn dda. Dyna'r cyfan y gallwn ei ofyn gennych chi... nes bod yr holl dystiolaeth wedi'i chlywed."
Bydd yr achos yn parhau ddydd Gwener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2019
