Ymdrech i achub 94 o swyddi yn aflwyddiannus

  • Cyhoeddwyd
northwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cwmni eu fod am gau'r safle ym Mhenygroes erbyn mis Hydref

Dywed Undeb Unite mai aflwyddiannus fu eu hymdrechion i achub 94 o swyddi mewn safle cynhyrchu papur tŷ bach ym Mhenygroes, Gwynedd.

Mae rheolwyr Northwood Hygiene Products am symud y gwaith cynhyrchu i ffatrïoedd eraill yn Telford, Oldham, Birmingham, Caerhirfryn a Bromsgrove.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Unite fod y cwmni wedi gwrthod eu cynigion i geisio achub y safle.

"Er gwaethaf ymdrechion caled cynrychiolwyr Unite yn ystod y cyfnod ymgynghorol o 30 diwrnod a'r posibilrwydd o gefnogaeth ariannol o Lywodraeth Cymru, mae'r cwmni wedi cadarnhau eu bwriad i gau'r safle erbyn Hydref 2020," meddai Daryl Williams, swyddog rhanbarthol gydag Unite.

"Bydd y penderfyniad heddiw gan y cwmni yn ergyd fawr i weithwyr a bydd colli'r swyddi yma yn cael effaith niweidiol ar economi Dyffryn Nantlle a'r cylch."

Straeon perthnasol