'O'dd yr ifancaf yn 42 a'r hynaf yn 101'

Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi galw am "edrych yn fanylach" ar y rheswm dros y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y sir yn ystod misoedd cyntaf eleni.

Mae gwaith ymchwil Newyddion S4C yn dangos fod 342 o farwolaethau wedi cael eu cofrestru yn y sir yn ystod 17 wythnos cyntaf eleni. Mae'r ffigwr yna 22% yn uwch na chyfartaledd marwolaethau Ceredigion dros yr un cyfnod yn y pum mlynedd diwethaf.

Ar gyfer misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth eleni, roedd mwy o farwolaethau yng Ngheredigion nag y mae'r sir wedi eu gweld yn yr un misoedd ers o leiaf ddeng mlynedd.

Ymhlith y boblogaeth leol, mae amheuon am y cynnydd mewn marwolaethau. Ac mae'r ymgymerwr Maldwyn Lewis hefyd yn dweud bod angen edrych eto ar achos y cynnydd mewn marwolaethau yn y sir ym misoedd cyntaf y flwyddyn.