Uchafbwynt Alex Humphreys: Band Pres Llaneurgain yn ennill yn 2017

Nid yw'r cynnwys yma ar gael.

Mae yna broblem

Eisteddfod Ynys Môn 2017 sy'n sefyll allan yn y cof fel uchafbwynt. O'n i 'di bod yn trafod y bandiau pres dosbarth 3 a 4 ar y teledu, felly ges i gyfle i fynd mewn i'r Pafiliwn i wylio'r bandiau dosbarth cyntaf a'r bencampwriaeth. Band Pres Llaneurgain yw fy hen fand - nes i dyfu fyny hefo'r band yma ond, yn byw yng Nghaerdydd bellach, o'n i heb glywed nhw ers sbel a dwi'n cofio'r teimlad o hapusrwydd yn gweld nhw'n camu ar y llwyfan - yr holl wynebau cyfarwydd o fy mhentre.

Yna ddechreuon nhw chwarae, ac o'n i 'di syfrdanu. Roedd yr holl fandiau wedi chwarae'n dda y diwrnod hwnnw, ond roedd 'na rywbeth am Laneurgain: nhw oedd yr enillwyr clir i mi, yn ben a sgwyddau'n well na phawb arall. O'n i mor browd ohonyn nhw, ac wedi cyffroi achos dyma oedd un o fandiau gorau Cymru yn chwarae ar eu gorau. Paul Hughes oedd yn arwain (un o ffanfferwyr yr Eisteddfod) ac roedd cyfnod y band gyda fo wedi gweld lot o lwyddiant iddyn nhw.

Dwi wastad yn ffeindio hi'n anodd gwylio bandiau pres achos dwi isho bod yna'n chwarae hefo nhw, ond mae 'na ryw deimlad sy'n dod drostai pan dwi'n clywed band da yn chwarae cerddoriaeth arbennig... mae wastad yn rhoi fi mewn hwyliau da.

Mi enillodd y band, wrth gwrs, ac mi gafo ni hwyl yn dal fyny a dathlu yn y bar ar y maes wedyn - diwrnod i'r brenin.