Ymchwiliad ar ôl i neidr fyw gael ei gadael mewn siop

  • Cyhoeddwyd
Neidr ŷdFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r math o neidr gafodd ei gadael yn y siop

Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i ddyn adael neidr mewn bag mewn siop, ar ôl honni mai corff cath oedd ynddo.

Cafodd y neidr ŷd frown ac oren ei gadael mewn siop anifeiliaid anwes yn Abertyleri.

Roedd yr anifail wedi ei lapio mewn lliain a'i roi mewn bag wedi'i glymu, ac roedd hwnnw wedi ei roi tu mewn i fag arall.

Cafodd y pecyn ei adael yn siop Pawfection Pet Shop yn Stryd Somerset ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf.

Nawr mae'r Gymdeithas Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) yn awyddus i holi'r dyn ymhellach.

Bag cotwm gwynFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y neidr wedi ei rhoi yn y bag hwn

Mae'r RSPCA yn amau fod y dyn wedi mynd i'r siop y diwrnod cyn y digwyddiad yn holi am brynu aderyn.

Dywedodd Fiona Thomas o'r RSPCA: "Mae'n anghredadwy y byddai rhywun yn cerdded i mewn i siop a gadael neidr fyw, ddiymadferth fel hyn.

"Yn rhyfedd iawn, ry'n ni wedi cael gwybod bod y dyn wedi esgus mai cath wedi marw oedd yn y bag, a'i fod wedi gadael y siop yn sydyn.

"Yn ffodus fe ddaeth y neidr i'n gofal ni, a cafodd ei throsglwyddo i le gydag adnoddau pwrpasol i ofalu amdani."

Bag bwyd cath lle roedd y bag gwynFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bag gwyn lle gadawyd y neidr, tu mewn i'r bag bwyd cath yma

Mae'r neidr ŷd yn gynhenid i ogledd America, ond mae nifer yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.

Ychwanegodd Fiona Thomas: "Mae angen ymroddiad i edrych ar ôl anifeiliaid egsotig, ac mae eu hanghenion yn union yr un fath ag y bydden nhw yn y gwyllt.

"Ddylai pobl ddim cael un os nad'yn nhw wedi ymchwilio i'w anghenion yn drylwyr a'r hyn sydd ei angen i ofalu am yr anifail.

"Rydym yn awyddus i siarad a'r unigolyn dan sylw - gall unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu a ni ar ein llinell apêl 0300 123 8018."

Cafodd neidr wasgu (boa constrictor) gynffongoch chwe throedfedd o hyd ei dal ar randir yng Nghasnewydd ym mis Mehefin.

Straeon perthnasol