Pryderon gan hyfforddwyr cŵn tywys yn y pandemig
- Cyhoeddwyd

Sian Menai Jones gyda Perry y Labrador yn ymarfer yng nghoedwig Cyncoed
Mae elusen wedi apelio ar y cyhoedd i beidio â mynd at gŵn sy'n cael eu hyfforddi fel anifeiliaid cymorth.
Dywedodd elusen Guide Dogs mai dim ond dau hyfforddwr sy'n cael defnyddio eu canolfan yng Nghaerdydd ar unrhyw un adeg er mwyn cadw at reolau pellhau cymdeithasol.
Mae hyn yn golygu bod cŵn yn gorfod defnyddio strydoedd cyhoeddus yn fwy aml.
Ond mae'r elusen yn pryderu fod pobl sy'n mynd heibio'r cŵn ar y ffordd yn ymddwyn yn rhy gyfeillgar ac yn amharu ar allu'r cŵn i ganolbwyntio, gyda rhai pobl hyd yn oed yn torri rheolau pellter cymdeithasol.
Yn groes i'r broblem o gael gormod o bobl o gwmpas ar y strydoedd tra bod y cŵn yn cael eu hyfforddi, yw peidio â chael digon o bobl yng nghanol dinasoedd i ddysgu'r cŵn sut i reoli torfeydd unwaith y byddant yn barod.
Nid yw'r hyfforddwyr chwaith yn gallu mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus nac i mewn i siopau a chaffis fel y byddan nhw fel arfer yn ei wneud.
'Pobl yn cyffwrdd y cŵn'
Mae Sian Menai Jones wedi bod yn hyfforddwr gydag elusen Guide Dogs ers wyth mlynedd.
Roedd hi'n dod i ddiwedd yr hyfforddiant gyda dau gi, Perry a Clover, ac roedd ar fin dechrau gweithio gyda nhw a'u perchnogion pan ddechreuodd y cyfnod clo.
"Pan ddaw'r cŵn i mewn gyntaf, rydych chi'n treulio llawer o amser yn y ganolfan yn dysgu'r gorchmynion a'r triciau sylfaenol iddyn nhw ac yna rydyn ni'n mynd i ardaloedd preswyl tawel," meddai Sian.
"Yna dyma'r cyfnod lle dwi'n mynd i ganol dinas Caerdydd ac yn edrych am leoedd prysur, sy'n anodd ar hyn o bryd."

Mae'r ganolfan yn dysgu sgiliau bob dydd i'r cŵn
Oherwydd rheolau pellhau cymdeithasol, mae hi'n gorfod cadw at strydoedd tawel.
"Nid wyf wedi cael gormod o drafferth gyda phobl, ond mae rhai o fy nghydweithwyr wedi cael problem gyda phobl yn cyffwrdd eu cŵn. Rhaid i chi ofyn i bobl beidio â chyffwrdd â nhw," meddai.
Peryglu hyfforddwyr
Mae'r elusen hefyd yn bryderus fod rhai aelodau o'r cyhoedd yn peryglu'r hyfforddwyr oherwydd bod pobl yn dod yn agosach na dau fetr.
"Hyd yn oed gyda'r gwirfoddolwyr [sy'n maethu'r cŵn yn ystod hyfforddiant] rydyn ni'n cadw ein pellter dau fetr.
"Dydyn ni ddim yn mynd i mewn i siopau nac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus," meddai Sian.
Yn yr un modd, ni all ci tywys ddeall ciw pellter cymdeithasol y tu allan i siop.
Ychwanegodd Sian: "Mae'r cŵn yn gweld y bylchau [rhwng pobl] fel ffordd i fynd drwyddyn nhw, fel y byddan nhw fel arfer yn cael eu hyfforddi i wneud mewn torf.
"Gobeithio y bydd y mwyafrif o bobl yn deall."