Hari, 4, adref wedi 14 mis yn yr ysbyty yn Lerpwl

Mae bachgen pedair oed o Gaernarfon wedi dychwelyd adref yn dilyn cyfnod o 14 mis mewn ysbyty plant yn Lerpwl.

Cafodd Hari ei eni gyda'r cyflwr myo-tubular myopathy - sy'n golygu bod angen cyflenwad ocsigen arno i allu anadlu am weddill ei oes. Mae ar beiriant cynnal bywyd ac mae ei gyflwr yn un prin - gyda dim ond 17 achos yn y DU.

Mae Hari wedi treulio rhan fwyaf o'i fywyd yn Ysbyty Alder Hey ond yn gynharach yr wythnos hon fe gafodd ffarwel arbennig gan y staff a Heddlu Glannau Mersi, cyn i Heddlu Gogledd Cymru a fflyd o geir Ford Escorts Mark 1 ei hebrwng adre i ogledd Cymru.