Un farwolaeth Covid-19 arall yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae un person arall wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul.
Mae'n dod â chyfanswm y bobl sydd wedi marw gyda'r feirws yma i 1,549, yn ôl ffigyrau'r corff.
Cafodd 22 o achosion newydd eu cadarnhau, sy'n golygu bod 17,125 o bobl bellach wedi profi'n bositif am Covid-19 yng Nghymru.
Cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu profi hyd yma ydy 228,310, gyda 211,185 yn profi'n negyddol.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhoi cyfanswm y marwolaethau ar 2,484, gan ei fod yn cynnwys yr holl farwolaethau cofrestredig mewn cartrefi gofal a chartrefi pobl - a phan fydd meddygon yn amau bod coronafeirws wedi bod yn ffactor.
Nid yw ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys marwolaethau pobl o Bowys sydd mewn ysbytai yn Lloegr.