Cywydd Croeso Gŵyl AmGen 2020
- Cyhoeddwyd
Cywydd gan Ceri Wyn Jones i groesawu Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw
Mae'r Prifardd Ceri Wyn Jones wedi llunio cywydd croeso i nodi amgylchiadau unigryw dathliad Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru a Cymru Fyw:
Cywydd Croeso
Dewch, oll, drwy eich radio chi
ac ar-lein, yn griw 'leni:
does dim cae, does dim ciwio
na glaw; does dim drws ar glo
na cham, dim ond cerdd a chân
ar gyfer Cymru gyfan.

Sbort Awst a sbri artistig
a gewch fesul sgwrs a gig
wrth i sêr yr iaith â'i sîn,
ar adeg anghyffredin,
greu gŵyl sy'n gri o'r galon
fod angen yr AmGen hon.

