Edrych nôl ar y Pafiliwn
- Cyhoeddwyd
Sgrîn y cyfrifiadur, ffôn neu dabled fydd canolbwynt dathliadau Eisteddfod AmGen 2020, ond dros y blynyddoedd y Pafiliwn sydd wedi bod wrth calon y cystadlu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cylch yn y Fenni roedd na bafiliwn newydd sbon wrth i'r ŵyl ffarwelio gyda'r Pafiliwn pinc eiconig yn 2015 wedi naw mlynedd.
Ond dros y blynyddoedd mae sawl adeilad dros dro wedi cartrefu'r prif gystadlaethau. Dyma sut mae edrychiad y Pafiliwn wedi newid dros y blynyddoedd:

Yn 1872, cafodd Eisteddfod Gadeiriol Eryri ei chynnal yn Nhremadog ar 28-30 Awst, a cynlluniwyd y Pafiliwn gan y peiriannydd a'r pensaer lleol, Thomas Roberts

Yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Freiniol Bangor yn 1874 oedd 'Awdl y Beibl' gan E Gurnos Jones, Talysarn

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 oedd Dafydd Rees Williams am y bryddest ar y testun 'Y Cadfridog Garfield', ond doedd neb yn deilwg o'r Gadair.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895, enillydd y Gadair oedd John Owen Williams (Pedrog), ac mae'r Gadair fawr bren addurniedig bellach yn ôl yn Llanelli, ac yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard

Crwys oedd y bardd buddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 1924 ei chynnal ar 4-9 Awst ym Mharc Mhontypŵl, ac enillydd y Gadair oedd Cynan

Roedd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933 yn un hynod anarferol, gan ei bod wedi ei cherfio yn Shanghai, wedi iddi gael ei chomisiynu gan J R Jones, gynt o Dalysarn

Roedd rhaid rhoi baner Jac yr Undeb newydd ar do Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei dwyn y noson gynt

Yr Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1963 oedd Cynan, ar ddechrau ei ail dymor yn y swydd, ar ôl ei gyfnod cyntaf fel Archdderwydd yn yr 1950au

Morgan Mathias, o Sydney oedd Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a'r Cylch yn 1971

Selwyn Iolen enillodd y Goron ym mhafiliwn streipiog gwyrdd a melyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989. Daeth yn Archdderwydd yn Eisteddfod 2005

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 oedd yr wythfed tro i'r ŵyl ddod i gyffiniau Bangor

Ers Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006, roedd pafiliwn pinc wedi cael ei ddefnyddio i gynnal y cystadlaethau, cyngherddau a'r seremonïau ond fe'i gwelwyd ar faws y Brifwyl am y tro olaf yn Eisteddfod Maldwyn 2015

Datgelwyd cynllun y pafiliwn fyddai'n cymryd lle'r pafiliwn pinc fis Tachwedd 2015

Ac yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 cafodd eisteddfodwyr weld y pafiliwn gwyn petryal am y tro cyntaf

