'Falch o fod nôl yn ymarfer pêl-droed'

Wrth i gyfyngiadau'r pandemig gael eu llacio, mae rhai o'r clybiau pêl-droed ar lawr gwlad yn falch o gael dechrau cynnal ymarferion unwaith eto.

Ers pythefnos bellach, mae Clwb pêl-droed Nantlle Vale yng Ngwynedd wedi bod yn ymarfer yn eu cartref yn Stadiwm Maes Dulyn ym Mhenygroes.

Er bod pobl bellach yn cael gwneud eu hymarfer corff mewn grwpiau yn yr awyr agored, roedd yn rhaid i CPD Nantlle Vale gyflwyno nifer o newidiadau i'r ffordd yr oeddynt yn ymarfer.