Her Farddonol i'r Brodyr Parc Nest

  • Cyhoeddwyd
Brodyr Parc Nest

Fel rhan o'r Ŵyl AmGen, fe wnaeth Radio Cymru osod her i'r brodyr Parc Nest sef John Gwilym Jones, Aled Gwyn a T. James Jones.

Y dasg oedd ysgrifennu cerdd ar y testun 'Parc Nest', ac roedd beirniad cudd yn dyfarnu'r cyfan.

Darllenwch y cerddi, yna gwrandewch yn ôl ar y rhaglen i glywed yr ymateb.

blanc

Cerdd 1 - John Gwilym Jones

Llun

(wedi darganfod hen lun fy rhieni a dynnwyd yn y gegin)

Ar bwy yr oedd eu llygaid, uwchben y gweddill bwyd,

Y foment y parlyswyd eu gwên ar y ffoto llwyd?

blanc

Syllaf i fyw'r mudandod, craffu i holi'u hynt

Cyn cilio o mam i'r llaethdy, a nhad i'r clos a'r gwynt:

blanc

Gweld sbrychyn toes ar ewin nas golchodd dydd i ffwrdd,

Gweld dolydd cras Mehefin yn weiryn ar y bwrdd;

blanc

Nes gweld, â'r gweld sy'n ddyfnach, y drefn oedd i'w bywyd hwy.

Eu trem yn fy holi innau welaf fan yma mwy.

blanc

Cerdd 2 - Aled Gwyn

Parc Nest

(Dychwelyd mewn henaint)

Mae'r hud gaed ym more oes

Ynom ar hyd ein heinioes;

Caeau a chloddiau a chlos

Yn anhygoel, yn agos.

A holl erwau llwybrau'n lles

Yn gân a stori gynnes.

Dros ein pen i'n gorffennol,

A dyna her. Mynd yn ôl

I Barc Nest ym mro Nest wnaf

Yn fore, - yn fwy araf.

blanc

I'r tŷ o'r dyffryn a'r tarth;

Cofiaf y cŵn yn cyfarth,

Neu'r ubain yn eu rheibo

A'u sŵn cas sy yn y co'.

I laslanc dan y glasloer

Y gwdihŵ oedd gwaed oer.

Lle i ofni bwci bo

Yn y ddunos oedd yno.

blanc

Yno y mae Dat a Mam

Yn ddaioni sy'n ddinam;

Dau fu'n rhoi, rhoi yn rhad

Awen bur, dyna'u bwriad.

Gafael mawr, gofal a maeth,

Amynedd a hwsmonaeth.

blanc

Ai hala dom neu hôl da,

A'u gwynt a gofiaf gynta?

Neu ai gweld harddwch Mamgu

Yn ei byd draw'n y beudy,

A'i llaw rhwng coesau llyweth

Yn godro neu'n tico teth?

blanc

Er nad oes ots ffagotsen

Dyna od yw mynd yn hen;

Diain o waith, a dyna her

Yw symud heb help zimmer.

Codi a thrin sopin sydd

Yn anos i mi beunydd.

Helbul yw hwpo whilber

Dal rhaw, codi claw, dal clêr.

Wy'n rhy whip ac yn rhy hen

I roi dim ar y domen;

Plwco rhic, neidio sticil

Herio bwch, ac agor bil.

Dim winshyn a dim mansher

Neido gât na newid gêr,

Dim belo, a dim bilwg,

A'th hi'n drist, mae'n wa'th na drwg.

blanc

Cerdd 3 - Jim Parc Nest

Ar ôl deddfu'r Sa Draw

a her byw heb fwrw bant,

wnes i'm untro mentro mas o mhentre

i weld yr hen gartre yn Sir Gâr;

alltud wen i, gan taw pum milltir

wedd y pentigili newy', medde nhw.

Cofiwch, sai'n un i achwyn, achos

y rheol wâr hon wedd yn rheoli'r haint

rhag mynd ar wyllt mewn sawl man;

hebddi, ele pethe dros ben llestri'n llwyr; llwyddo i ledrithio mil i drath y Mwnt,

i adloniant yr Atlantig, ond heb un tŷ bach wedi'i agor ym Mhenfro na Cheredigion.

blanc

Ond â chamau chwimwth dychymyg,

wele, wy eilweth yn facwy; drwy'r dre

yr af lan y rhiw fel un ar hast

i roi cwtsh i'r ci defed wedd 'da fi'n

mynd am wâc o ga' i ga', i ga'l gweld

manne hwsmoneth ar eu gore.

blanc

Aneirod ym Mharc Cwm-Mora

yn falch o'i borfeydd;

ym Mharc Cwm-bach, y da bach wrth eu bodd â'r haf, a'r cyhûdd yn rifiera'r coed.

O Barc y Banc i Barc y Berth,

y cynhaeaf llafur yn aeddfed i'w fedi,

wedi dod â'r gwair i'w gadw ers amser ar gyfer y gaeafu.

blanc

Mentro heibo wedyn am foment i'r boudy,

at galon yr hwsmoneth,

a'r fuches or-feichus

yn diferynnu o hyd, fore a nos,

yn anesmwyth dan lwyth o lath,

mor falch o'i glywed yn llifo i'r bwcedi.

Wedd hi'n rhyddhad i fam a thad 'fyd,

a hwythe dan bwyse dyled y rhent i'w dalu.

blanc

Wy'n hiraethus, glwyfus wrth groesi'r hen glos, a gafel atgofion yn dynn amdana'i nes torri rhwyd y Sa Draw; wedd eu twtsh, yn gwtsho, yn gatshyn!

blanc

Ma' rhyw gêm ar y gweill;

awgrym John Gwilym ac Aled

wedd e, falle . . . ie, siŵr o fod,

wrth roi'r gwartheg yn y ca' i gnoi'u cil; rhyw awr i whare ac ymroi i joio'n solas cynnes, hwylus cyn noswylio.

Ond â Dat yn codi peli mor rhwydd dros do tŷ pair, ma' Mam o hyd yn amheus o'i rocedi cricedol, yn carco ffin ffenest y gegin, rhag ofn.

blanc

Cerdded wedyn i'r tŷ, ac ymdopi â'r tywydd yn troi o atgof i atgof; un, am whâr yn marw; yn mynd bant i rywle cyn i finne fod.

Ie, sa draw a glyws hi druan.

Hyn yn unig a rannaf â'm rhieni -

'not cricket' wedd colli Beti.

blanc

A nawr, 'ma fi yn y rŵm ford,

a gafel atgofion eto'n tynhau;

lle hael, ond llys llym;

digonol ei fwyd, egnïol ei farn.

Yn fforwm y ffwrwme

ma' hi'n nos ar ymynysu,

ysgwydd yn ysgwydd y'n ni,

a'r storáis yn whalu'r Sa Draw,

yn lleihau a byrhau i'r dim lleia,

y 'cadw hyd braich'.

blanc

Ar y rhiw nôl i'r dre, gweld adfeilion y gaer, wedd iddi hi Nest, yn gastell. Fe ddele hi lan o fan'ny i hamddena a hela fan hyn. A harddodd hi yr union dirwedd hon? Ai hwn fydde'r gorwel wele hithe ar ei thaith ar y rhiw sha thre? Ai dros yr un dyfnion y llifai Afon Teifi? O rannu'r hanes, fe'n dynesir yn gowled dynn am ein gily'. Ynom ni, yma nawr, a'n hyfory, hyderwn heb ddiferion y Feirws, y parheir y cof am y parc hwn.

blanc
baner AmGen
Amgen