Tair yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae tair yn rhagor o farwolaethau coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd y dair farwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Erbyn hyn mae cyfanswm y marwolaethau wedi cyrraedd 1,565.
Fe gafodd 37 o achosion positif newydd o'r feirws eu cofnodi.
Roedd 11 o'r achosion yn Sir Fflint, 10 yn Wrecsam a pedwar yn Sir Ddinbych.
Cyfanswm y bobl sydd wedi profi'n bositif yng Nghymru yw 17,315.