Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 3. Michal a 4. Barista
Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.
Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.
Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.
Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma i chi'r drydedd a'r bedwaredd gân i'w mwynhau.