#UnawdEncore: Ethnie Foulkes: Serei
- Cyhoeddwyd

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Os nad yw'r fideo yn chwarae ar eich dyfais cliciwch fan hyn.

Perfformiad gan Mared Pugh-Evans ar y delyn
Ethnie Foulkes: Serei
Perfformiad gan Mared Pugh-Evans (telyn), Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae gwaith atmosfferig Ethnie Foulkes ar gyfer telyn unigol yn cymryd ei enw o'r term meteorolegol a ddefnyddir pan fydd glaw yn disgyn o awyr sy'n ymddangos yn glir.
Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.
