#UnawdEncore: Niamh O’Donnell: Allt y Crib

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Niamh O'Donnell: Allt y Crib

Perfformiad gan Matt House (gitâr), Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae darn Niamh O'Donnell ar gyfer gitâr unigol yn ymateb i goedwig ger ei chartref yng Ngheredigion lle y mae hi wedi treulio oriau lawer yn ystod y pandemig.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.