#UnawdEncore: Jasper Dommett: Record wedi ei Dorri

  • Cyhoeddwyd
Encore
Disgrifiad,

#UnawdEncore: Jasper Dommett: Record wedi ei Dorri

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Os nad yw'r fideo yn chwarae ar eich dyfais cliciwch fan hyn.

line

Perfformiad gan Ben Jones-Angove (bas dwbl), Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ei waith ar gyfer y bas dwbl unigol, mae Jasper Dommett yn gofyn a ydym i gyd yn symud ymlaen trwy'r argyfwng hwn fel y nodwydd ar record sydd wedi torri, ac yn meddwl tybed sut fydd bywyd yn dilyn y pandemig hwn.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.

Eisteddfod