Saith yn rhagor o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae saith o farwolaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru bellach yn 1,578, yn ôl ffigyrau ICC.
Dangosodd y ffigyrau diweddara' bod 17 o achosion positif wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.
Roedd wyth o'r achosion hyn yng ngogledd ddwyrain Cymru, yn siroedd Wrecsam, Dinbych a'r Fflint.
Cafodd 5,019 o brofion eu cynnal ddydd Iau.
Dywedodd Dr Robin Howe o ICC: "Yng ngoleuni rhagolygon y tywydd braf y penwythnos hwn, dymuna Iechyd Cyhoeddus Cymru atgoffa'r cyhoedd bod ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae wrth atal lledaeniad Coronafeirws trwy lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol ar bob adeg - sicrhau eich bod yn cadw dau fetr oddi wrth bobl eraill a golchi eich dwylo yn rheolaidd."


Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020

- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
