Covid-19: Nifer â dementia sy'n marw yn 'syfrdanol'

Mae ffigyrau sy'n amlygu effaith y pandemig ar bobl â dementia yng Nghymru wedi'u disgrifio fel rhai "arswydus".

Roedd dros un o bob pum person fu farw gyda Covid-19 yma yn byw gyda'r salwch.

Ar ôl colli ei thad gyda coronafeirws ym mis Ebrill, dywedodd Ceri Higgins o Donteg yn Rhondda Cynon Taf fod ganddi "lawer o gwestiynau'n mynd drwy fy mhen bob dydd".