Covid-19: Dwy farwolaeth a 18 achos newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dau berson yn rhagor wedi marw gyda coronafeirws, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul.

Cafodd 18 achos newydd o Covid-19 eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf hefyd, sy'n is na'r ffigwr o 27 ddydd Sadwrn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,589 bellach wedi marw gyda'r feirws yma - er mae'r ffigwr yn uwch mewn gwirionedd.

Mae 17,561 o bobl yng Nghymru wedi cael prawf positif ers dechrau'r pandemig.