Cyfnod cyffrous i ddilynwyr stormydd
Dros yr wythnos diwethaf mae stormydd mellt a tharanau wedi taro Gymru gyfan.
Er fod bod yng nghanol storm yn gallu bod yn brofiad dychrynllyd, mae criw o ffotograffwyr yng ngogledd Cymru wrth eu boddau yn eu dilyn.
Mae criw o ffotograffwyr yn mentro allan i ddilyn y storm er mwyn ceisio tynnu lluniau o fellt a thywydd eithafol.
Mae'r dilynwyr wedi cytuno i rannu rhai o'u lluniau gyda BBC Cymru Fyw.