Cynghrair Europa: NSÍ Runavík 5-1 Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Gavin Chesterfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Chesterfield wedi bod yn rheolwr ar Y Barri ers 2007

Ni fydd Y Barri yn mynd ymhellach yng Nghynghrair Europa eleni wedi iddyn nhw gael cweir oddi cartref yn Ynysoedd y Ffaro nos Iau.

Roedd hi'n hanner cyntaf digon cyfartal, gyda'r Barri yn llwyddo i gadw NSÍ Runavík - ddaeth yn drydydd yn uwch gynghrair Ynysoedd y Ffaro y tymor diwethaf - i gêm ddi-sgôr.

Ond fe wnaeth y tîm cartref ddangos eu safon yn yr ail hanner, gyda Klaemint Olsen yn sgorio hat-tric.

Petur Knudsen a Steffan Lokin sgoriodd y ddwy gôl arall i Runavík, cyn i Kayne McLaggon gael gôl gysur i'r Cymry yn y munudau olaf.

Gêm un cymal oedd hon oherwydd coronafeirws, sy'n golygu mai Runavík fydd yn herio Aberdeen yn Yr Alban yn y rownd nesaf.