Galw am hawl i bobl anabl weithio o adref wedi Covid-19
- Cyhoeddwyd

Mae arolwg gan undeb Unison o fwy na 4,000 o bobl anabl ar draws y DU wedi darganfod fod llawer yn teimlo bod gweithio gartref yn ystod y pandemig wedi gwella eu lles, a bod mwy na hanner yn teimlo y byddent yn elwa o wneud hynny yn y dyfodol.
Mae'r undeb bellach wedi galw am roi'r hawl i bobl anabl weithio gartref ar ôl argyfwng Covid-19.
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau y gallai gweithwyr anabl elwa o gymorth ariannol i weithio gartref oherwydd estyniad i'r chynllun Mynediad at Waith.
I Sophie Washington, sydd wedi bod yn cysgodi yng nghefn gwlad Cymru ers mis Mawrth, ac yn defnyddio cadair olwyn, mae manteision wedi codi o weithio o adref yn ystod y cyfnod clo.
Dywed Sophie, 24, fod y cyfnod clo wedi caniatáu iddi "gyfrannu mwy" at ei rôl mewn elusen yn Llundain.
Mae gan Sophie, o Landeilo sawl cyflwr iechyd cronig. Fe orfododd hyn iddi hi a'i theulu i ynysu yn eu maes gwersylla nes i'r cyfnod cysgodi ddod i ben yng Nghymru ar 16 Awst.
Gwerthfawrogi gwaith
Tra bod iechyd Sophie yn ei hatal rhag gweithio mewn swydd llawn amser, a bod ei chyflyrau iechyd yn ei gwneud hi'n anodd iddi deithio o gwmpas, mae'n gwerthfawrogi ei gwaith gydag elusen Rays of Sunshine - elusen ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael.
Mae hi'n llysgennad i'r elusen ac yn ymwneud â gwaith gwirfoddol, gan deithio i swyddfa'r elusen yn Llundain pan fo angen ar gyfer cyfarfodydd.
"Cyn y cyfnod clo byddwn yn ceisio teithio i'r cyfarfodydd, a dydi hynny ddim yn ddelfrydol pan y gall teithio fod yn boenus iawn i mi, ac mae'n ffordd hir iawn i fynd," meddai.
"Mae pobl yn dweud bod llefydd yn gyfeillgar i bobl anabl ond nes eich bod chi yno yn y gadair olwyn, mae'n stori hollol wahanol."
Ond, mae Sophie yn credu mai "un o'r pethau cadarnhaol" i ddod allan o'r cyfnod clo yw'r ffaith fod agweddau tuag at weithio o gartref wedi newid.
"Ers y cyfnod clo rydym wedi cael sawl cyfarfod ar-lein ac mae wedi bod yn wych cael cymryd rhan. Rwyf i wedi bod yn well ynof fi fy hun gan nad ydw i wedi gorfod gwneud y daith hir honno, ac rwyf i wedi gallu cyfrannu mwy, sydd yn wych."

Er bod cysgodi wedi bod yn anodd, gyda chysylltiad â ffrindiau yn gyfyngedig a phryder sylweddol am Covid-19, mae Sophie o'r farn bod y posibilrwydd o newid parhaol i'w bywyd gwaith wedi ei helpu i weld ochr bositif i'r pandemig.
"Gobeithio, wrth symud ymlaen - i mi fy hun a llawer o bobl eraill sydd â phroblemau symudedd sydd methu cyrraedd lleoliadau gwaith traddodiadol mor hawdd - fe gawn ni rai fanteision a gallu gweithio gartref yn amlach nawr."
Roedd y gallu i weithio'n hyblyg, cymryd seibiant byr i reoli materion iechyd, a chael mynediad haws at doiledau ymysg yr atebion a roddwyd yn arolwg Unison.
Awgrymodd yr ymateb fod pobl yn llai tebygol o fod wedi blino ac mewn poen o achos teithiau hir i'r gwaith.
Roedd hanner y rhai a gwblhaodd yr arolwg wedi gweithio gartref yn ystod y pandemig, ac roedd bron i dri chwarter yn teimlo eu bod yn fwy cynhyrchiol neu'r un mor gynhyrchiol yn gweithio gartref o gymharu ag yn y gweithle cyn y cyfnod clo.
Roedd 54% o'r rhai oedd wedi ymateb yn teimlo y byddent yn elwa o weithio gartref yn y dyfodol.
'Dim esgus'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Unison, Christina McAnea: "Dangosodd y pandemig nad oes esgus bellach i gyflogwyr wrthod ceisiadau gweithwyr anabl os ydyn nhw'n gofyn am weithio gartref."
Dywedodd yr elusen cydraddoldeb anabledd Scope fod y pandemig wedi "gorfodi busnesau i addasu i weithio gartref yn hyblyg" ac wedi annog cyflogwyr i groesawu newid unwaith y bydd y pandemig drosodd.
Dywedodd James Taylor o'r elusen: "I lawer o bobl anabl, mae gweithio gartref yn hyblyg yn rhywbeth y maent wedi bod yn gofyn amdano ers blynyddoedd, gyda graddau amrywiol o lwyddiant yn dibynnu ar y cyflogwr.
"Yn y DU mae miliwn o bobl anabl eisiau gweithio ond mae'r cyfle yn cael ei wadu iddynt. Gall polisïau cywir, cynhwysol fel gweithio hyblyg ac o bell fod yn hynod fuddiol i lawer o weithwyr, trwy ganiatáu iddynt weithio yn y ffordd fwyaf effeithiol."
Ymestyn cynllun Mynediad at Waith
Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai pobl anabl elwa o gymorth ariannol i weithio gartref oherwydd estyniad i'r cynllun Mynediad at Waith.
Byddai'r rhai sy'n gweithio gartref neu yn y gweithle yn elwa o gymorth ychwanegol, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer offer arbennig, costau teithio ac iechyd meddwl.
Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith, Justin Tomlinson: "Bydd yr estyniad hwn o gyllid a chefnogaeth yn helpu i amddiffyn miloedd o swyddi, ac yn darparu annibyniaeth hanfodol sy'n caniatáu i bobl anabl gyrraedd eu llawn botensial."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020

- Cyhoeddwyd20 Mai 2020

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020
