Arestio dynes wedi gwrthdrawiad angheuol fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dynes 26 oed mewn gwrthdrawiad yn gynnar fore dydd Sadwrn ym Mhenygraig, Rhondda Cynon Taf.

Bu cerbyd Vauxhall Adam coch mewn gwrthdrawiad a choeden ar ffordd yr A4119 am 03:45.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, ac er holl ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes yn y fan a'r lle.

Mae dynes 24 oed wedi ei harestio ac mae hi yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae swyddogion Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un sydd gyda lluniau fideo 'dash-cam' o'r digwyddiad, neu oedd wedi gweld y modd yr oedd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu gyda nhw.