Dim rhagor o farwolaethau coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni chafodd rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru yw 1,595.

Cafodd 39 o achosion positif newydd eu cofnodi, gan ddod a'r cyfanswm sydd wedi profi'n bositif i 18,012.

O'r rhain roedd 11 o'r achosion yng Nghaerdydd wyth yng Nghaerffili a chwech yn Abertawe.

Powys oedd yr unig awdurdod lle nad oedd yr un achos.

Hyd yn hyn mae 334,284 wedi profi'n bositif yng Nghymru, gyda 316,272 o brofion yn negyddol.

Straeon perthnasol