Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 26 oed fu farw mewn gwrthdrawiad wedi i'w feic modur daro wal mewn lôn gefn yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y penwythnos.
Cafodd ambiwlans awyr ei alw wedi i feic oddi ar y ffordd (off-road) KTM oren daro wal eiddo ym mhentref Tair Gwaith, ger Gwauncaegurwen tua 13:00 ddydd Sul.
Roedd Cameron Samuel Rees yn 26 oed, ac yn dod o bentref Gwauncaegurwen.
Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Sam yn ddyn ifanc hapus, ac roedd bob amser â gwên ar ei wyneb ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod ac yn cwrdd ag ef yn ei garu.
"Roedd Sam yn un o'r bobl orau y gallech chi eu cyfarfod, ac roedd ganddo amser i bawb yr oedd yn eu hadnabod.

Cafodd y dyn ei ladd mewn lôn gefn ym mhentref Tair Gwaith, ger Gwauncaegurwen
"Roedd Sam wrth ei fodd yn yr awyr agored ac yn reidio ei feic modur gyda'i ffrindiau a'i deulu.
"Yn anffodus, yr achlysur hwn, cymerwyd bywyd Sam yn llawer rhy fuan, tra roedd allan yn gwneud yr hyn yr oedd wrth ei fodd yn ei wneud ar ei feic modur.
"Bydd colled fawr ar ôl Sam gan ei deulu, ffrindiau, pawb oedd yn ei garu. Mae'n gadael twll enfawr yn ein calonnau i gyd ac ni fydd byth yn angof."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd mewn lôn gefn rhwng Heol Dewi Sant a Brook Terrace.
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a allai fod â gwybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad, i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020
