Pryder meddygon dros drafferthion trefnu prawf Covid-19
- Cyhoeddwyd

Mae'n "annheg", medd Dr Huw Gwilym, i ddisgwyl i gleifion deithio mor bell am brawf
Mae meddygon teulu wedi mynegi pryder fod cleifion yn cael trafferthion trefnu profion coronafeirws.
Yn ôl dau feddyg teulu yng Ngwynedd, mae cleifion wedi cael cynnig i deithio i Aberystwyth, Manceinion neu Sir Amwythig i gael eu profi.
Mae eraill yn gorfod ffonio fwy nag unwaith am gyngor am fod y gwasanaeth mor brysur.
Mae'r fath sefyllfa, fisoedd wedi dechrau'r pandemig a chyn i bwysau tymor y gaeaf daro'r gwasanaeth iechyd, yn bryderus, medd Dr Huw Gwilym o Feddygfa Waunfawr ger Caernarfon.
Dywed cadeirydd cymdeithas feddygol y BMA yng Nghymru eu bod yn ymwybodol o drafferthion tebyg ar draws y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mater wedi ei godi gyda Llywodraeth y DU - sy'n rheoli'r labordai - a bod arian wedi ei fuddsoddi i gynyddu'r capasiti yng Nghymru.
Cleifion 'pryderus'
Dywedodd Dr Gwilym mewn datganiad ei fod yn gweithio fel meddyg ar alwad yn y feddygfa yn Waunfawr ddydd Llun.
"Daeth yn amlwg yn fuan yn y bore bod llawer mwy o oedolion a rhieni pryderus yn cysylltu â ni hefo symptomau megis tagu, gwres a diffyg anadl a phryder naturiol am Covid-19," meddai.
"Mae hyn yn bryder i ni fel meddygon o ystyried mai dim ond mis Medi ydy hi."
Ychwanegodd: "Yn fwy pryderus roedd pob claf i weld yn cael trafferth trefnu prawf Covid yn lleol ac esiamplau o gleifion Waunfawr yn cael cynnig mynd i lefydd fel Telford, Croesoswallt ac Aberystwyth!
"Roedd cleifion eraill yn cael cyngor i ffonio'r gwasanaeth yn ôl gan eu bod yn brysur.
"Rydym yn bryderus iawn am y sefyllfa yma gan nad yw hi'n deg gofyn i gleifion sydd hefo symptomau Covid, sydd i fod i ynysu ac yn sâl, i drafeilio oriau yn y car i gael prawf Covid.
"Hefyd, mae hi'n hanfodol cael prawf buan yn yr achosion yma fel bod systemau 'track and trace' yn gweithio yn fwy effeithiol.
"Doedden ni ddim yn disgwyl problemau o'r fath fisoedd i mewn i'r pandemig."

Dywedodd Dr Eilir Hughes fod y ganolfan brofi agosaf yn Llandudno ynddo'i hun yn rhy bell i'w gleifion
Yn ôl Dr Eilir Hughes, meddyg teulu yn Nefyn, mae sawl adroddiad fod pobl sy'n byw ym Mhenrhyn Llŷn yn cael cynnig prawf ym Manceinion neu Aberystwyth.
"Mae'r ganolfan Profi, Olrhain, Diogelu agosaf yn Llandudno, sydd ynddo'i hun yn rhy bell.
"Mae pobl wedi yn gofyn am brofion cartref ac yn cael gwybod eu bod wedi rhedeg allan o'r rheiny.
"Mae'n achosi llawer o bryder i'r unigolion hynny a'u teuluoedd.
"Mae'r pellter i Landudno yn annymunol, yn enwedig os rydach chi'n gweithio neu'n ofalwr. Dwi'n poeni ei fod yn atal pobl rhag cael eu profi.
"Dylai'r system wneud hi mor hawdd â phosib i annog pobl i gael prawf pan maen nhw'n cael symptomau."
'Ciwiau erchyll'
"Mae'n rhywbeth rydym wedi ei glywed ar draws y DU," medd Dr David Bailey, meddyg teulu yng Nghaerffili - ble mae cyfnod clo lleol yn dod i rym nos Fawrth - a chadeirydd y BMA yng Nghymru.
"Roedd y ciwiau yn y ganolfan dros dro yng Nghaerffili ddoe yn erchyll ond rydym yn deall fod pobl yn cael eu profi.
"Mae'n ymddangos fod capasiti'r gwasanaeth dan straen ar draws y DU.
"Prin fod danfon pobl ar draws y wlad yn helpu o ran cadw pobl yn lleol a chadw pellter cymdeithasol."
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud bod canolfannau profi dros dro yng Nghaerffili wedi bod yn brysur iawn a dim ond pobl sydd â symptomau ddylai fynd yno.
Ychwanegodd y llefarydd na ddylai unrhyw un o du allan i Sir Caerffili fynd i'r canolfannau yma, ond yn hytrach gwneud cais am brawf drwy ffonio 119.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mater wedi ei godi gyda Llywodraeth y DU - sy'n rheoli'r labordai - er mwyn sicrhau bod pobl Cymru'n "cael prawf mor agos i gartref â phosib".
Ychwanegodd bod arian wedi ei fuddsoddi i gynyddu'r capasiti prosesu profion mewn ysbytai ledled Cymru, er mwyn "cryfhau ein gallu i brofi cyn y gaeaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020

- Cyhoeddwyd18 Awst 2020

- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
