Cwymp sylweddol yng nghyflymder prosesu profion Covid-19
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ystadegwyr daw'r cwymp o ganlyniad i gynnydd yn y galw am brofion
Mae'r cyflymder wrth brosesu profion cartref ar gyfer coronafeirws yng Nghymru wedi arafu yn sylweddol.
Yn wythnos olaf Awst dim ond 8% gafodd eu prosesu o fewn diwrnod, a 24% o fewn deuddydd.
Mae hynny o'i gymharu â 50% ac 88% ar ddiwedd Gorffennaf.
Dywedodd ystadegwyr Llywodraeth Cymru bod y cwymp o ganlyniad i gynnydd yn y galw dros y DU, gan fynd "dros dro" yn uwch na chapasiti'r labordai Lighthouse.
Mae'r labordai yma yn rhwydwaith o labordai coronafeirws arbenigol, ac mae'r rhan helaeth o brofion o Gymru'n cael eu prosesu ynddynt.

Mae diffyg capasiti yn y labordai hefyd wedi arwain at bobl yn cael ceisiadau i deithio ymhell ar gyfer profion gyrru-drwodd.
Oherwydd y nifer uchel o brofion i'w prosesu, mae llai o apwyntiadau newydd ar gael.
Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth y DU ymddiheuro am yr oedi o ran y labordai Lighthouse.
Cynnydd mewn achosion
Mae nifer yr achosion positif o coronafeirws wedi bod yn cynyddu yn rhannau o Gymru dros y dyddiau diwethaf, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi 165 o achosion newydd ddydd Mercher.
Fe wnaeth y cynnydd yng Nghaerffili arwain at gyfyngiadau newydd yn cael eu gosod yno ar ôl 151 o achosion mewn cyfnod o saith diwrnod.
Cafodd 100 o achosion eu nodi yn Rhondda Cynon Taf.
O ganlyniad mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd canolfan brofi dros dro yn agor ym mhentref Porth am 09:30 ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020

- Cyhoeddwyd9 Medi 2020

- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
