102 o achosion newydd Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Prawf

Mae 102 o achosion newydd o'r coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru gan gynyddu'r cyfanswm i 18,931.

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 34 o'r achosion newydd yn Sir Caerffili, ble mae cyfyngiadau lleol mewn grym.

Nid oes unrhyw farwolaethau pellach wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Roedd naw achos yr un yn siroedd Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd, saith yn Sir Gâr a phump yng Ngwynedd.

Yr unig siroedd ble nad oedd achosion wedi eu cofnodi oedd Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg.

Cafodd 7,799 o brofion eu cwblhau yng Nghymru ddydd Mercher, yn ôl y ffigyrau.