Dau o blant wedi eu hanafu'n ddifrifol ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd

Mae dau o blant wedi cael eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a char ym Mhontypridd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Peugeot coch a lori nwyddau ar ffordd yr A470 am 16:00 brynhawn dydd Iau.
Cafodd dau o blant eu cludo i'r ysbyty yn dioddef o anafiadau difrifol.
Bu'n rhaid cadw rhan o'r ffordd i gyfeiriad y de ar gau am bron i ddwy awr wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.