Carcharu aelodau gang cyffuriau 'soffistigedig'
- Cyhoeddwyd

O'r top - chwith i dde: Jack Jones, Lisa Tinson, Colin Jones, Shaun Dooley, Edward White, Barry Roche; Canol ch-dd: James Hughes, Leon Langford, Anthony Fahy, Patricia Massingham, David Rawling, Peter Powell; Rhes isaf dd-ch: Richard Anderson, Anthony Stagg, Toni Stagg, Keith Furmage, Steve Dooley, Lee Murray
Mae aelodau o gang oedd yn gyfrifol am ddosbarthu cyffuriau caled gwerth miliynau o bunnoedd i Lannau Dyfrdwy wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 100 o flynyddoedd.
Cafodd 18 o bobl eu harestio fel rhan o ymgyrch mwyaf Heddlu Gogledd Cymru i'r math yma o droseddu.
Fe ddisgrifiodd barnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ymdrech y gang i ddosbarthu cyffuriau fel "ymgyrch soffistigedig".
Roedd pencadlys y gang yn ardal Walton, Lerpwl, ac roeddynt wedi defnyddio ffonau symudol arbennig nad oedd modd i'r awdurdodau eu dilyn a'u dehongli, peiriannau mesur celwydd, ac fe gafodd un o'r aelodau ei fygwth gan eraill wedi i ffrae godi.
Cafodd aelod olaf y gang, Lee Murray, 34, o ardal Waterloo yn Lerpwl ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am ei ran yn y cynllun ddydd Gwener.
Dywedodd Ffion Medi Tomos ar ran yr erlyniad fod y llinell ffôn oedd yn cael ei defnyddio i archebu cyffuriau yn cael ei hadnabod fel "Llinell Echo", ac roedd Murray hefyd yn arddel y llysenw "Echo".

Anthony Stagg a Toni Stagg yn Nhowyn ar gyfer cyfarfod Colin Jones yn Awst 2018
"Rhwng Ebrill a Gorffennaf 2018, roedd na 160,000 o alwadau a negeseuon testun i Linell Echo. Roedd yn gwerthu degau o filoedd o bunnoedd o gyffuriau y dydd," meddai.
"Lee Murray - oedd yn cael ei adnabod fel 'Lee Go' - oedd yr ail o ben y gadwyn reoli. Fo oedd wedi trefnu'r llinell ffôn.
"Roedd yn aelod uchel iawn yn y grŵp tan iddo ffraeo gyda'r arweinydd, Colin Jones, ac roedd cynllwyn i ymosod arno, gafodd ei atal dim ond pan wnaeth yr heddlu ymyrryd."
Dedfrydau
Dros gyfnod o dridiau o ddedfrydu dan ofal y Barnwr Niclas Parry, cafodd dedfrydau gyda chyfanswm o 146 mlynedd o garchar eu rhoi i aelodau'r gang.
Cafodd rhai aelodau ddedfrydau o bedair blynedd, tra cafodd arweinydd y gang, Colin Jones, ddedfryd o 21 mlynedd.
Roedd Jones yn gweithredu o Stâd Sparrow Hall yn ardal Walton o Lerpwl ac roedd yn rheoli'r cyflenwad o heroin, cocên a chyffuriau eraill oddi yno i ogledd Cymru, Aberdeen a Chernyw.
Cafodd y troseddu ei disgrifio yn y llys fel "achos clasurol o gyflenwi cyffuriau County Lines ar raddfa fawr", ac fe ddaeth i ben wedi nifer o gyrchoedd yr heddlu fis Medi diwethaf.

Colin Jones a Richard Anderson yn cyfarfod i drosglwyddo car Mercedes am gocên yn Hydref 2018
Clywodd y llys fod Colin Jones yn defnyddio ffonau symudol arbennig nad oedd modd eu dilyn, gan ddefnyddio peiriannau mesur celwyddau er mwyn sicrhau ei fod yn gallu ymddiried mewn pobl.
Roedd ganddo naw o ffonau symudol ei hun, a dwy ddyfais arbennig nad oedd modd eu dehongli.
Ond yn dilyn ffrae rhyngddo a Lee Murray, fe ofynnodd i'w brif gyfaill newydd, David Rawling, drefnu ymosodiad ar Lee Murray.
Llwydodd yr heddlu i ymyrryd mewn pryd ond roedd swyddogion yn amau fod bwriad i ddefnyddio dryll yn yr ymosodiad.
Cafodd cyffuriau eu trosglwyddo am geir gwerthfawr, yn cynnwys Mercedes, Audi a Jaguar gan y gang.Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Ar ran y cyhoedd rwyf yn cymeradwyo'r heddlu am eu gwaith i ddod a'r ymgyrch niweidiol yma i ben.
"Mae cymuned Cei Connah yn enwedig wedi dioddef effaith pydredd gweithgareddau y grŵp troseddol yma, ar ei iechyd ac yn gymdeithasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
