133 yn rhagor o achosion coronafeirws yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
PrawfFfynhonnell y llun, Reuters

Mae 133 o bobl yn rhagor wedi derbyn canlyniadau positif wedi prawf am coronafeirws yng Nghymru, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe allai ffigyrau dydd Gwener fod yn uwch o achos "materion technegol", sydd yn golygu nad oedd canlyniadau profion o rai labordai ar gyfer dydd Mawrth a dydd Mercher wedi eu cynnwys yn ffigyrau dydd Iau.

Roedd 30 achos newydd yn ardal Caerffili, ble mae canllawiau clo lleol mewn grym. Roedd hyn bedwar yn llai na nifer yr achosion ddydd Iau.

Nid oes unrhyw farwolaethau Covid-19 newydd wedi eu cofnodi ers dros wythnos yma yng Nghymru bellach.

Cyfanswm y marwolaethau drwy'r wlad hyd yma yw 1,597 - sy'n cynnwys marwolaethau mewn ysbytai gan fwyaf, ac ond achosion lle cafodd y feirws ei gadarnhau mewn profion labordai.

Yn ardal Rhondda Cynon Taf roedd 23 achos newydd.

Ardal Merthyr Tudful sydd gyda'r ail gyfradd uchaf o achosion yng Nghymru gyda 54.7 achos ymhob 100,000 o bob dros y saith diwrnod diwethaf.

Roedd 10 achos newydd yng Nghasnewydd, gydag wyth achos yn Sir y Fflint a thri yng Nghaerdydd.

Dim ond yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Fynwy oedd yr ardaloedd heb achosion newydd ddydd Gwener.

Cyfyngiadau newydd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau newydd ddydd Gwener sydd yn golygu y bydd yn rhaid gwisgo mygydau mewn siopau o ddydd Llun.

Hefyd fe fydd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig gyfarfod dan do yng Nghymru.

Dywedodd cwmni Bws Caerdydd - sydd yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth bysiau yn y brifddinas - y bydd staff yn goruchwylio'r defnydd o fygydau gan y cyhoedd ar eu cerbydau o ddydd Llun ymlaen.

Fe fydd staff yn gwneud hyn mewn partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd mai'r bwriad oedd i leddfu pryderon teithwyr oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus "a rhoi hyder i'r cwsmeriaid hynny oedd yn dychwelyd".

MygydauFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd gwisgo mygydau mewn siopau yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen

Yn ystod cynhadledd i'r wasg yn gynharach, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod "gweinidogion a swyddogion yn ystyried a ddylid cyflwyno cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr bob dydd".

Cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno yng Nghaerffili ddydd Mawrth ac mae yna fesurau lleol wedi'u cyflwyno yn y ddwy sir arall ac apeliadau ar i drigolion lleol gadw at y rheolau.

"Rydw i hefyd yn annog pobl yn y siroedd hynny i ufuddhau i'r cynghorion," meddai.

"Os fydd hynny'n digwydd mae yna siawns na fydd yn rhaid cyflwyno mesurau llymach ar draws Cymru.

"Bydd swyddogion yn cwrdd ddydd Llun er mwyn trafod profion a data achosion diweddaraf Rhondda Cynon Taf a Merthyr.

"Dyw e ddim yn fater o aros wythnosau, ry'n ni'n adolygu pethau yn ddyddiol."

'Cam yn ôl'

Dywedodd Mr Drakeford bod yna "gam yn ôl" wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf "a bod hi'n anorfod y bydd pethau'n gwaethygu ymhellach".

Wrth siarad yn y gynhadledd ychwanegodd: "Os ydym yn cydweithio, yn cadw at y rheolau ac yn ufuddhau i'r mesurau newydd i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid, fe allwn Gadw Cymru'n Ddiogel."

Dywedodd bod gan Gymru rywfaint o gyfle i weithredu cyn "storm coronafeirws".

"Ry'n ni'n cadw golwg fanwl ar ardaloedd Caerffili, Merthyr a Rhondda Cynon Taf er mwyn gweld a oes angen gweithredu ymhellach i atal yr haint rhag lledu," meddai.

Rhybuddiodd y byddai mwy o salwch difrifol a marwolaethau petai'r haint yn cydio eto yma yng Nghymru, ond bod y rheolau newydd "wedi'u cynllunio i atal argyfwng newydd".

"Mae'r mesurau yma yn hynod o bwysig wrth i ysgolion ddychwelyd yn llawn ac wrth i fyfyrwyr baratoi i ddychwelyd i golegau a phrifysgolion."

Straeon perthnasol