Pobl yn teithio o Loegr am brofion yn Abercynon
Ers 18:00 nos Iau mae cyfyngiadau newydd mewn grym yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Ond ddydd Gwener fe wnaeth Aelod Seneddol Cwm Cynon, Beth Winter alw ar Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU i ymateb ar frys wedi iddi ddod i'r amlwg bod pobl o Loegr yn teithio i'r ardal am brofion Covid-19.
Daw hynny er bod pobl sy'n byw yno ddim yn cael gadel y sir oni bai bod yn rhaid iddyn nhw.