Arwr Tawel 2020: Cyfnod enwebu ar agor

  • Cyhoeddwyd
Delwyn Derrick
Disgrifiad o’r llun,

Delwyn Derrick yn derbyn gwobr 2019 gan gyn-asgellwr Cymru, Mickey Thomas

Mae'r cyfnod enwebu ar gyfer gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2020 bellach wedi dechrau.

Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth am y gorau yn eu cymunedau yn ystod blwyddyn ddigynsail.

Hefyd eleni, bydd gwobr Arwr Tawel Ifanc Capten Tom yn cael ei ddyfarnu i berson dan 15 sydd wedi gweithredu dros eu cymuned.

Mae'r wobr wedi ei henwi ar ôl y Capten Tom Moore, wnaeth ysbrydoli'r wlad gyfan eleni gyda'i waith hel arian i'r Gwasanaeth Iechyd.

Sut mae enwebu?

Mae enwebu rhywun yn syml iawn, gallwch chi enwebu drwy ein ffurflen Arwr Tawel Ifanc os ydy'r person dan 16, neu ein ffurflen Arwr Tawel os ydyn nhw dros 16 oed.

Fe allwch chi enwebu ar ffurf fideo neu yn ysgrifenedig.

Am fwy o wybodaeth am y gwobrau, fe allwch chi ddarllen ein telerau a'r hysbysiad preifatrwydd.

Pryd mae'r cyfnod enwebu yn cau?

Fe allwch chi enwebu ar gyfer y gwobrau cyn 23:59 ar ddydd Sul, 25 Hydref 2020.

Ni fydd enwebiadau sy'n cael eu derbyn ar ôl hynny'n cael eu hystyried.

Sut mae'r gwobrau'n cael eu dyfarnu?

Bydd panel yn dyfarnu'r gwobrau ym mhob un o 15 gwlad neu ranbarth y DU.

Bydd pedwar o'r 12 enillydd o ranbarthau Lloegr yn ymuno â'r enillwyr o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y rhestr fer olaf.

Bydd panel o sêr a chynser o'r byd chwaraeon, a gwirfoddolwyr chwaraeon yna'n dyfarnu'r brif wobr.

Bydd gwobr Arwr Tawel Ifanc yn cael ei ddyfarnu gan yr un panel, ac fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ar 20 Rhagfyr.

Straeon perthnasol