Rhai'n 'ymosodol' dros wisgo mwgwd yn y fferyllfa

  • Cyhoeddwyd
Arwydd fferyllfa yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gofyn i ymwelwyr â'r fferyllfa yma yng Nghaernarfon wisgo mwgwd cyn gorchymyn Llywodraeth Cymru

Mae rhai cwsmeriaid wedi ymddwyn yn ymosodol mewn ymateb i gais i orchuddio'u hwynebau wrth ymweld â fferyllfa, yn ôl y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yng Nghymru.

Ers 14 Medi, mae'n orfodol i wisgo mwgwd mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru.

Mae'r Gymdeithas yn awgrymu posibilrwydd mai oherwydd dryswch ynghylch y rheolau y mae lleiafrif ymosodol yn gwrthod gwisgo mygydau mewn fferyllfeydd cymunedol.

Dywed un fferyllydd nad yw erioed wedi profi'r un lefel o gamymddygiad ers dechrau ei yrfa bron i 60 mlynedd yn ôl.

Staff 'yn ei dagrau'

Yn ôl Richard Harrison - fferyllydd yng Nglannau Dyfrdwy, Sir Y Fflint - dydy'r cwsmeriaid sy'n tramgwyddo "ddim yn llwyr sylweddoli'r angen i fod mewn cysylltiad agos wrth drafod gyda nhw ac mae'n gwbl amhriodol os nad ydyn nhw'n gwisgo mwgwd".

"Roedd y dwrdio cawson ni ar y diwrnod cyntaf [14 Medi], a dweud y gwir, yn annioddefol ac yn hollol annerbyniol. Roedd un ddynes ifanc yn ei dagrau wedi'r fath arthio gan un claf."

Ychwanegodd fod nifer o gleifion wedi cael eu gwahardd o'r fferyllfa o ganlyniad i'w hymddygiad, ond mae'n pwysleisio nad ar chwarae bach y mae gwneud hynny.

Menyw'n gwisgo masgFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig i bawb sy'n gallu gwisgo masg i wneud hynny, medd RPS Cymru

Mae'r RPS yn credu fod rhai pobl ddim yn ymwybodol o'r rheol newydd, er bod y cam eisoes mewn grym yn Lloegr ers mis Awst.

Mae cyfarwyddwr RPS Cymru, Elen Jones, yn pwysleisio mai yn y lleiafrif y mae'r bobl sy'n wedi ymddwyn yn ymosodol.

"Mae'n bwysig i bobl sylweddoli bod y rhan fwyf ohonon ni'n gallu gwisgo mygydau ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny," meddai.

"Ond mae yna hefyd bobl sydd ddim yn gallu eu gwisgo, efallai oherwydd anabledd.

"Mae'n wirioneddol bwysig mewn safle gofal iechyd, fel yn unrhyw sefyllfa ble rydym mewn cysylltiad agos â'n gilydd, ein bod yn gorchuddio'n hwynebau ac yn cadw'r pellter dau fetr."

Nid dyma'r tro cyntaf i fferyllwyr wynebu camymddygiad gan rai o'u cwsmeriaid.

Roedd yna adroddiadau ym mis Mawrth fod rhai wedi ymateb yn ymosodol wrth i fferyllfeydd ddygymod â chynnydd yn y galw am foddion yn nyddiau cynnar y pandemig.