Achos Nantgaredig: Andrew Jones yn euog o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Roedd Andrew Jones yn gwadu iddo lofruddio Michael O'Leary
Yn Llys y Goron Abertawe mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio cariad ei wraig yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd yr erlyniad fod Andrew Jones wedi denu Michael O'Leary i'w fferm anghysbell a'i saethu, cyn cludo'i gorff i'w iard adeiladu yng nghar ei wraig a'i losgi ym mis Ionawr eleni.
Clywodd y llys fod darn o goluddyn dynol mewn drwm olew ar eiddo Andrew Jones yng Nghaerfyrddin yn perthyn i Mr O'Leary.
Roedd yr amddiffyniad wedi ceisio dadlau mai "damwain erchyll" oedd y farwolaeth, yn hytrach nag achos o lofruddiaeth.
Dywedodd Jones iddo fynd â dryll i'w gyfarfod gyda Mr O'Leary "i godi ofn arno" ond i'r dryll danio ar ddamwain pan wnaeth ei gyfaill neidio amdano.
Nid oedd hynny'n ddigon i ddarbwyllo'r rheithgor, ac fe'i cafwyd yn euog o lofruddio ddydd Llun.
Wrth roi tystiolaeth i'r llys yn ystod yr achos, dywedodd Mr Jones ei fod wedi adnabod Michael O'Leary am tua 25 mlynedd ac roedd yn ei ystyried fel ei "bumed neu chweched" ffrind gorau.
Clywodd y llys fod y negeseuon rhwng y diffynnydd a'i wraig yn awgrymu fod priodas y ddau o dan straen wedi i Mr Jones ddarganfod fod ei wraig yn cael perthynas â Mr O'Leary.
Yn ôl yr erlyniad, ar ôl diflaniad Mr O'Leary, fe wnaeth Mr Jones anfon nifer o negeseuon ar ei ffôn at ei ffrindiau yng nghlwb rygbi Nantgaredig yn gofyn a oedd yna "unrhyw newyddion" am Mr O'Leary.
Dywedodd un o'r negeseuon "gallai ddim dod dros Mike," ac yna ychwanegodd, "gobeithio ei fod yn Sbaen yn partio neu rywbeth".

Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i gorff Michael O'Leary o Nantgaredig